Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
ADDYSG, CYMRU A LLOEGR
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“Deddf 2015”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn nodi ei brif nodau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r system newydd ar gyfer rheoleiddio cymwysterau y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2015.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf 2015, neu at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, sef Rhan 2 (sefydlu a phrif nodau Cymwysterau Cymru), Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu), Rhan 6 (darpariaeth bellach sy’n berthnasol i gydnabod, cymeradwyo a dynodi) ac adran 56 (dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”) o Ddeddf 2015 ac Atodlen 3 (darpariaeth bellach ynghylch cydnabod cyrff dyfarnu) ac Atodlen 4 (diwygiadau canlyniadol) iddi.
Mae gan Gymwysterau Cymru (sydd wedi ei sefydlu gan adran 2 o’r Ddeddf) swyddogaethau cydnabod cyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru (Rhan 3) a rheoleiddio cyrff o’r fath drwy amodau cydnabod (adran 36 ac Atodlen 3). Mae adran 34 yn ymdrin â chymwysterau y caniateir iddynt gael eu defnyddio ar gyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus, sydd, yn gyffredinol, yn eu cyfyngu i ffurfiau ar gymhwyster sydd naill ai wedi eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru (o dan Ran 4) neu wedi eu dynodi ganddo (o dan Ran 5). Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 a Rhan 5 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru drafft
2015 Rhif (Cy. )
ADDYSG, CYMRU A LLOEGR
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016
Gwnaed 2016
Yn dod i rym 1 Mai 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 55(1)(c) a 59 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn hwylus at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, neu o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf honno, wneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1
Cyflwyniad
Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 a deuant i rym ar 1 Mai 2016.
Diwygio deddfwriaeth sylfaenol
Diwygio Deddf Dysgu a Sgiliau 2000
2. Yn adran 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000([2]) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—
““course of study” means a course of education or training that—
(a) leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
(b) is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.
Diwygio Deddf Addysg 2002
3. Yn adran 97 o Ddeddf Addysg 2002([3]) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—
““course of study” means a course of education or training that—
(a) leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or
(b) is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.
RHAN 3
Diwygio is-ddeddfwriaeth
Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992
4. Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992([4]), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—
“(iii) a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994
5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994([5]), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
““approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994
6. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994([6]) yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—
““approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999
7. Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999([7]), o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—
“(f) a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007
8. Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;
(b) yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—
“(da) Cymwysterau Cymru;
(dd) unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;”;
(c) yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a
(d) yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —
“; ac
(e) unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—
(i) y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(ii) y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009
9. Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009([9]) ychwaneger—
“(x) Qualifications Wales.”
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009
10. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009([10]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;
(b) yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac
(c) yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009
11. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009([11]) yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
“mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
12. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011([12])—
(a) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a
(b) yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.
Diwygio Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011
13. Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011([13]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;
(b) yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac
(c) yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.
Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011
14.—(1)(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion
(Cymru) 2011([14]) wedi eu diwygio fel a
ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—
““rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—
mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.
(4) Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
“(d) y dyddiad dyfarnu;
(dd) y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e) y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
(5) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—
“(d) y dyddiad dyfarnu;
(dd) y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac
(e) y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”
Diwygio Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013
15. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013([15]) yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—
“ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—
(a) sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(b) sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;”.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013
16. Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013([16]) yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b) in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013
17. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013([17]) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014
18. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014([18]) yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.
Diwygio Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015
19. Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015([19]) yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—
“(ii) is funded by a local authority, or
(iii) leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015
20. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015([20])—
(a) ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a
(b) ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—
“; and
(20) Qualifications Wales.”
Dirymu darpariaeth arbed mewn cysylltiad â chymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015
21. Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015([21]) wedi ei dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
([2]) 2000 p. 21. Mewnosodwyd adran 33N gan adran 35 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mae diwygiadau eraill i adran 33N nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
([3]) 2002 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o “course of study” yn adran 97 gan adran 1(1) a (2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
([4]) O.S. 1992/548. Mae paragraff 1(1)(b) wedi ei ddiwygio o ran Cymru gan O.S. 2010/2448, erthygl 2.
([5]) O.S. 1994/651. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 2(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
([6]) O.S. 1994/652. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 3(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
([7]) O.S. 1999/2864. Mewnosodwyd y diffiniad o “educational qualification” yn rheoliad 22 gan O.S. 2010/1203, rheoliadau 2 a 6(b). Mae diwygiadau eraill i reoliad 22 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
([8]) O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn rheoliad 3 ac is-baragraffau (d) - (f) o reoliad 5(2) gan O.S. 2011/2325, rheoliad 2(1), (2)(c) a (3)(a). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
([10]) O.S. 2009/3256 (Cy. 284). Diwygiwyd y diffiniadau o “NQF” a “lefel NQF” a mewnosodwyd y diffiniadau o “QCF” a “lefel QCF” gan O.S. 2010/2431, rheoliad 8(a).